Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 28
Mawrth 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Cwestiwn Brys 1
I’r Ysgrifennydd y Cabinet dros lechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y
gorwariant o £150 miliwn gan fyrddau iechyd lleol eleni?
EAQ(5)0153(HWS)W
Cwestiwn Brys 2
I’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Vikki Howells (Cwm Cynon): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i'r nifer fawr o danau glaswellt dros y penwythnos? EAQ(5)0126(CC)
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(15 munud)
NDM6272 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau
Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael
ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 7 Mawrth 2017.
Dogfennau Ategol
Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau
Hysbysiadau) (Cymru) (Diwygio) 2017
Memorandwm Esboniadol (Saesneg
yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
(15 munud)
NDM6271 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Chwefror 2017.
Dogfennau Ategol
Rheoliadau
Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2017
Memorandwm Esboniadol (Saesneg
yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
(15 munud)
NDM6269 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno mai Senedd y DU ddylai ystyried y darpariaethau yn y Bil Pedolwyr (Cofrestru), i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(ii).
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad
y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion
Gwledig
NNDM6279 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a'r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu:
a) i NDM6267, a gyflwynwyd gan David Rees, gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 28 Mawrth 2017; a
b) i Ddadl Fer NDM6266, a gyflwynwyd gan Dawn Bowden, gael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 29 Mawrth 2017.
(60 munud)
NDM6267 David Rees (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei Ymchwiliad i'r goblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2017.
Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 15 Mawrth 2017.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
(60 munud)
NDM6270
Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cytuno bod gan Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a
Pharciau Cenedlaethol swyddogaeth allweddol:
a) fel lleoedd gwerthfawr ar gyfer natur ac o safbwynt creu manteision cyhoeddus a phreifat drwy wahanol wasanaethau;
b) o
safbwynt rheoli'n gynaliadwy adnoddau naturiol a chefnogi cymunedau
gwledig llewyrchus.
2. Yn cytuno bod gwerth arbennig i bob tirwedd, yn unol ag ysbryd
'bro', sydd wrth wraidd hunaniaeth cymuned a'r ffordd y mae llawer
o bobl yng Nghymru'n mynegi eu teimlad unigryw o berthyn i le
penodol.
(120 munud)
Caiff y gwelliannau eu gwaredu yn drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 fel y cytunwyd gan y Cynulliad ar 21 Mawrth 2017.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:
1. Tir sy’n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr
35, 37, 32, 36, 29
2. Cyfraddau treth a bandiau treth
38, 39, 33, 40, 41, 42
3. Cyfraddau treth a bandiau treth - sylwadau gan awdurdodau lleol
30
4. Trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch - prif fuddiannau
7, 8, 12
5. Technegol - croesgyfeiriadau
9, 10, 11, 18, 19, 20, 24, 28
6. Technegol – gwelliannau drafftio
13, 15, 16, 6
7. Trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch - dirprwyon
14, 21
8. Trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch - eiddo a etifeddir
17
9. Technegol - cyfrifo cydnabyddiaeth drethadwy
1, 2
10. Technegol – diffiniadau
25, 26, 27, 4, 5
11. Technegol - trafodiadau gan bartneriaeth: gwelliannau drafftio
22, 23
12. Pŵer i ddiwygio’r cyfnod pan fo rhaid dychwelyd ffurflenni treth
3
13. Adolygiad annibynnol o'r dreth trafodiadau tir
31
14. Canllawiau gan Weinidogion Cymru i ACC ar weinyddu treth trafodiadau tir
34
Dogfennau Ategol
Bil
Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig
(Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Rhestr o Welliannau wedi’u
Didoli
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 29 Mawrth 2017